Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Ymgynghorydd/Clinig a thîm cymorth meddygol pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn cael eu sefydlu yn ne-ddwyrain Cymru. Gofynnaf i’r ddeiseb hon gael ei thrin fel llais swyddogol dioddefwyr ME, eu teuluoedd, eu gofalwyr a phawb sydd â diddordeb.
Ar hyn o bryd, gydag ychydig eithriadau, nid yw’r proffesiwn meddygol yn rhoi cymorth i ddioddefwyr yr anhwylderau uchod. Nid yw’r bobl hyn yn gallu gweithio, ond ymddengys nad yw’r cyrff sydd yn eu hasesu ar ran y Llywodraeth yn deall eu problemau. Dyna yw sail y ddeiseb hon.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae’r gostyngiad yn y grant MEAG yn effeithio’n llwyr ar ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig ar adeg pan fo nifer fawr iawn o ddysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol yn ein hysgolion. Mae diffyg ymgynghori yn methu ag archwilio graddfa, cwmpas ac effaith ein cymorth ar unigolion, eu teuluoedd a chyflawniad yr ysgol gyfan.
Prif ddeisebydd M.E.S.I.G. (M.E Support in Glamorgan)
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer y llofnodion: 368 llofnod a’r lein a 826 llofnod papur. Cyfanswm 1,196